Mariela
"Byr iawn yw bywyd.
Naw mis o fywyd gefais i, Naw mis o fywyd tyner, clos o dyfu a datblygu dan ofal mam a thad.
Danghosais y wyrth o greu, yr undod o gariad rhwng gwr a gwraig.
Profais i chi eich dau, fy Nhad a'm Mam, mor gryf a chadarn ydych.
Rhoddais i chi flas ar y disgwl a'r aros.
Siaradais a chi yn fy ffordd fy hun wrth bwnio a chicio.
Gwyddwn am y croeso oedd i ddod, y blanced fawr o gariad teulu oedd ar fy nghyfer.
Ni fynnwn eich siomi, ond nid gen i roedd yr hawl i'm ffawd.
Er na allaf swatio yng nghesail eich breichiau gwn fy mod yn llenwi eich calonnau.
Mwythwch fy ngydyn gwallt, a chofiwch amdanaf, fy nhad a'm mam, gyda gwen o gariad.
Cariad a'ch deil yn gryf, fy rhieni dewr."
A.J.